top of page
EH Logo 2025

EUROS HUGHES A'I FEIBION

YNNI ADNEWYDDADWY A TRYDANOL

RENEWABLES & ELECTRICAL

criw.jpg
Contact

AMDANOM NI

Mae EH a'i Feibion yn gwmni teuluol sy'n arbenigo mewn gwaith trydanol ac ynni adnewyddadwy, wedi'i leoli ym Mhen Llŷn. 

Mae Euros a'i dîm yn cyfuno blynyddoedd o brofiad yn y maes trydanol ag ymrwymiad i helpu cartrefi, ffermydd a busnesau i wneud y mwyaf o dechnoleg ynni adnewyddadwy. 

 

Gan wasanaethu cwsmeriaid ledled Gogledd Cymru a thu hwnt, mae EH a'i Feibion yn darparu popeth o osod paneli solar, systemau storio batri a gwefrwyr cerbydau trydan i ystod eang o wasanaethau trydanol.

 

Fel contractwyr a gymeradwyir gan NAPIT ac aelodau o TrustMark, MCS a RECC, gallwch fod yn hyderus fod pob gwaith yn cydymffurfio â safonau'r diwydiant.

GWASANAETHAU

Ynni Adnewyddadwy

Helpu cartrefi, ffermydd a busnesau i leihau costau ynni a manteisio ar dechnolegau cynaliadwy.

Paneli Solar

Y cyfle i gynhyrchu eich trydan eich hun a lleihau costau ynni cynyddol gyda system paneli solar wedi'i gosod yn broffesiynol.

Systemau Storio Batri

Storio trydan dros ben a gynhyrchir gan eich paneli solar i'w ddefnyddio pan fydd ei angen fwyaf.

Gwefrwyr Cerbydau Trydan (EV)

Gwefru eich cerbyd yn gyfleus ac yn hawdd o'ch cartref neu leoliad busnes.

Gwaith Trydanol

Gwaith trydanol proffesiynol ar gyfer cartrefi, busnesau a ffermydd.

EIN PROSIECTAU

"Roedden ni wedi cael system paneli solar wedi ei osod 'chydig flynyddoedd yn ôl gan gwmni arall – ond doedd o ddim i'w weld yn cael effaith ar ein biliau misol. Mi wnaeth Euros ddatrys y broblem a gafodd ei wneud gan y gosodwr blaenorol. Fe osododd Euros system newydd, a dw i newydd dderbyn y bil trydan newydd; mae'n ffracsiwn o'r swm yr oeddem yn ei dalu yn y misoedd blaenorol. Mae'r system yn gweithio o'r diwedd! Mi wnaeth Euros a'i dîm waith rhagorol wrth osod y system – roedden nhw'n broffesiynol, yn brydlon ac yn hynod o daclus a chwrtais bob amser. Diolch am waith gwych."

A. Gould

bottom of page